Annwyl Bwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd,
Rwyf yn cefnogi’r ymgyrch i gael Bil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol cryf.
Hoffwn weld y Bil yn cael ei gryfhau drwy:
• Ychwanegu targedau i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr • Gosod dyletswydd gref ar gyrff cyhoeddus i anelu at gyflawni datblygiad cynaliadwy ym mhopeth maen nhw’n ei wneud • Ychwanegu diffiniad clir o’r hyn a olygir gan ddatblygiad cynaliadwy • Ystyried yn iawn yr effaith y mae Cymru yn ei chael ar bobl a’r amgylchedd dramor • Cynyddu pwerau’r Comisiynydd a gwneud y rôl yn atebol i Aelodau’r Cynulliad yn hytrach na Gweinidogion Cymru
Gofynnaf i chi ystyried fy marn wrth i chi graffu ar y ddeddfwriaeth yn ystod yr wythnosau nesaf.
Yr eiddoch yn gywir